Brechlynnau yw'r ffordd fwyaf effeithiol o atal heintiau fel COVID-19.
Mae Cofrestrfa Ymchwil Brechlyn COVID-19 y GIG yn cefnogi treialon ac astudiaethau sy'n gysylltiedig â brechlynnau COVID-19.
Os ydych wedi cofrestru i rywun gysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan mewn astudiaethau brechlyn COVID-19 cymeradwy yn y DU, byddwch yn parhau i dderbyn gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan mewn ymchwil.
Gallwch dynnu’n ôl o Gofrestrfa Ymchwil Brechlyn COVID-19 y GIG ar unrhyw adeg.
Tynnu'ch caniatâd yn ôl o Gofrestrfa Ymchwil Brechlyn COVID-19 y GIG.
Mae'r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Darllenwch bolisi preifatrwydd ymchwil brechlyn COVID-19.
Bod yn Rhan o Ymchwil
Os hoffech i rywun gysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan mewn ymchwil, gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Bod yn Rhan o Ymchwil.
Mae Bod yn Rhan o Ymchwil yn wasanaeth ar-lein sy'n ei gwneud hi'n hawdd i bobl ddod o hyd i ymchwil iechyd a gofal a chymryd rhan ynddi, gan gynnwys astudiaethau COVID-19.
Mae ymchwil iechyd a gofal yn helpu i ddarganfod ffyrdd newydd a gwell o drin clefydau, gwella'r GIG a darparu gofal o ansawdd gwell ledled y wlad. Dim ond gyda chymorth pobl fel chi y gallwn wneud hyn.
Gallwch fod yn rhan o ymchwil iechyd a gofal trwy greu cyfrif Bod yn Rhan o Ymchwil am ddim a dewis y cyflyrau iechyd y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Byddwch wedyn yn derbyn manylion astudiaethau ymchwil cymeradwy sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau i benderfynu a ydych am gymryd rhan.